Cawl Cennin a Thatws

Beth well ar ddiwrnod oer na phowlen o gawl cennin a tatws, y cyfuniad perffaith o saig hufennog a sawrus.

Cynhwysion

  • 150g Iogwrt Naturiol Arddull Groegaidd Llaeth y Llan 
  • 450g Tatws Blas y Tir (wedi'u torri mewn darnau 1cm)
  • 1 Winwns (wedi'u torri'n ddarnau bach)
  • 450g Cennin (rhannau gwyn yn unig, wedi eu sleisio)
  • 850ml Cyw iâr neu stoc llysiau
  • 125ml llefrith
  • 50g Menyn

Cyfarwyddiadau

  1. Yn gyntaf, toddwch y menyn mewn sosban fawr. Pan mae'n dechrau ewynu, ychwanegwch y tatws, y nionyn a rhannau gwyn o'r cennin a'u troi nes eu bod wedi'i gorchuddio gyda'r menyn
  2. Ychwanegwch halen a phupur yna throwch eto. Torrwch bapur gwrthsaim yn ddisg gan ei osod ar ben y llysiau (bydd hyn yn cadw'r stem i mewn) ac yna'n gorchuddiwch â chaead.
  3. Coginiwch hwn dros wres isel am 10 munud neu nes bod y llysiau'n feddal ond heb eu lliwio.
  4. Tynnwch clawr a thaflu'r papur. Tywalltwch y stoc i mewn a dod a fo i'r berw. Gadaewch iddo fudfewri nes bod y llysiau'n wedi eu coginio (tua 5 munud fel arfer).
  5. Trosglwyddwch y gymysgedd i'r blender a chymysgwch nes bod yn llyfn
  6. Rhowch y gymysgedd mewn sosban arall ac ychwanegwch y llaeth a thua 3/4 o'r iogwrt.
  7. Mudfewch y cawl i'w ail gynhesu ac ychwanegwch fwy o stoc os ydych chi'n meddwl ei fod yn rhy drwchus. Yna arllwyswch i mewn i fowlenni ar gyfer gweini.
  8. Gallwch ychwanegu ychydig bach o iogwrt i weini a gorffen gyda gwasgariad o gennin sifii a phupur du.

Rhannwch y cariad...

Ryseitiau DIWEDDARAF