Wedi'i bobi i berffeithrwydd gyda iogwrt toffi cyfoethog a hufennog, mae'r Toffee a Chocolate Yogurt Cake yn ffordd berffaith o rannu'r gorau o'r ddau fyd.
Cynhwysion
Cynhwysion
- 1 x 125g o iogwrt toffi Llaeth Y Llan
- 210g o flawd plaen
- 2 llwy de o bowdr codi
- 1/2 llwy de o soda pobi
- 1/4 llwy de o halen
- 150g o siwgr caster
- 2 x wy mawr
- 1 llwy fwrdd o fanila ecstract
- 110ml o olew rapeseed
Darnau Siocled
- 50g o siwgr caster
- 2 llwy de o bowdr coco
- 1 llwy fwrdd o fenyn wedi toddi
Siwgr yn diferu
- 50g o siwgr eisin
- 1-2 llwy fwrdd o llaeth
Cyfarwyddiadau
- Cynheswch y popty i 180C (160C popty ffan. Irwch a leiniwch tun cacen 8” gyda phapur gwrth saim.
- Ychwanegwch y blawd, powdr codi, soda pobi, halen a’r siwgr i fewn i fowlen mawr. Ychwanegwch yr afal a’i gymysgu .
- Mewn powlen arwahan, ychwanegwch yr wyau, fanila, olew rapeseed a’r iogwrt a’i gymysgu.
- Ychwanegwch y gymysgedd gwlyb i’r gymysgedd sych gan ei droi yn ofalus gyda llwy bren nes ei fod wedi cyfuno’n llwyr. Ond, byddwch yn ofalus i beidio gor-gymysgu.Tywalltwch y gymysgedd i’r tun.
- Er mwyn gwneud y top siocled, cyfunwch y powdr coco, siwgr a’r menyn ac yna tolltwch dros y gymysgedd.
- Coginiwch y gacen am tua 30-35 munud. Yna, gwirwch os yw’r gacen wedi coginio wrth roi sgiwer yng nghanol y gacen a gweld os yw’n dod allan yn lân.
- Trosglwyddwch y gacen ar rac wifren i oeri
- Yn olaf, cymysgwch y siwgr eisin â un llwy fwrdd o laeth nes ei fod yn llyfn. Os yw’r ‘glaze’ yn rhy drwchus, ychwanegwch un llwy fwrdd arall o laeth. Tywalltwch dros y gacen wedi iddo oeri.




