Dyma bwdin o'ch plentyndod! Mae'r pwdin nostalgic yma'n rhyfeddol o hawdd i'w greu. Gwledd y byddai'r hen a'r ifanc yn ei fwynahu fel ei gilydd.
Cynhwysion
- mefus 40g
- Tun 1/2 x 405g llaeth cyddwyso (llai o siwgr os y dymunir)
- 450g Iogwrt Naturiol Llaeth y Llan heb fraster
- Ffrwyth o'ch dewis
- Hufen / cnau/saws neu coulis i addurno
Cyfarwyddiadau
- Torrwch hanner y mefus yn fras a chwipio'r gweddill mewn prosesydd bwyd neu gyda cymysgydd llaw.
- Mewn powlen fawr, cymysgwch y llaeth cywasgedig i'r piwre mefus yna trowch yn ysgafn yn yr iogwrt nes ei gymysgu'n dda. Plygwch y mefus wedi'u torri i mewn i'r gymysgedd.
- Rhowch y gymysgedd i mewn i dun torth neu gynhwysydd, rhowch gaead arno neu lapio'n dda wrth glingffilm a rhewch dros nos nes ei fod yn galed. Tynnwch o'r rhewgell tua 10-15 munud cyn ei weini. Gellir ei rewi am hyd at 1 mis.
- Rhannwch eich dewis o ffrwythau yn y gwydrau. Gosodwch un sgŵp o iogwrt wedi'i rewi ar ben y ffrwythau ac ailadroddwch yr haen. Dewiswch topin o'ch dewis a mwynhewch!




