Mwynhewch y pwdin clasurol yma sy'n dal hanfod yr Haf i'r dim.- Ffwl Eirin Mair. Wedi ei wneud gyda Eirin Mair ffres, iogwrt Naturiol Llaeth y Llan neu Iogwrt Eirin Mair ac ychydig o siwgr caster euraidd. Mae'r pwdin yma'n ddathliad o'r Haf ac o flasau tymhorol!
Cynhwysion
- 900g Eirin Mair, torri'r top ar gwaelod gyda siswrn
- 275 g Iogwrt Naturiol Llaeth y Llan neu iogwrt Eirin Mair Llaeth y Llan
- 150g siwgr caster euraidd (golden caster sugar)
Cyfarwyddiadau
- Rhowch yr Eirin Mair mewn dysgl pobi, ysgeintiwch ychydig o siwgr a'u pobi ar silff ganol y ffwrn, heb ei orchuddio am 20-30 munud, neu nes ei fod yn dendr wrth ei brofi gyda sgiwer.
- Ar ôl hynny arllwyswch nhw i mewn i ridyll dros bowlen i ddraenio'r sudd. Nawr cadwch tua chwarter yr eirin mair wedi'u coginio ar gyfer wedyn. Yna rhowch y gweddill mewn prosesydd bwyd gan ychwanegu 4 llwy fwrdd o'r sudd a'i droi nes ei fod yn biwre trwchus.
- Nesaf, gadewch y piwre i fynd yn eithaf oer, yna tolltwch yr iogwrt i mewn i bowlen, rhowch droi iddo, yna plygwch yn hanner y piwre.. Nawr cymysgwch y gymysgedd hwn i'r gwydrau gweini gyda llwyed o'r piwre ar y top. Ychwanegwch eirin mair ffres i weini.
- Gorchuddiwch y gwydrau gyda clingfilm ac oeri nes eich bod chi'n barod i'w weini.




