Bara Brith Llaeth y Llan

Rhowch gynnig ar y rhysait unigryw yma, sef bara brith Cymreig traddodiadol, wedi'i wneud ag iogwrt Llaeth y Llan

Cynhwysion

  • 50g Iogwrt Naturiol Arddull Groegaidd Llaeth y Llan 
  • 300g ffrwythau cymysg sych
  • 350g Blawd Huan-godi
  • 200g siwgr brown golau
  • 250ml Te Poeth
  • 3g Sbeis cymysg
  • 1 Wy Mawr

Cyfarwyddiadau

  1. Mewn powlen fawr ychwanegwch y ffrwythau sych a'r siwgr, yna tywalltwch y te a'i gymysgu gyda'i gilydd yn dda. Gadewch hyn i socian dros nos.
  2. Cynheswch y popty i 160 ° C / 140 ° C Fan/ Marc Nwy 3. Irwch i fyny tun torth o'r 900g efo menyn a phapur pobi.
  3. Yn y bowlen o ffrwythau, ychwanegwch y blawd a'r sbeis cymysg a'i gymysgu'n dda cyn ychwanegu'r iogwrt. Curwch yr wy i mewn i'r gymysgedd.
  4. Tywalltwch y gymysgedd i'r tun  a'i bobi yn y popty am 1 awr a 15 munud, neu nes bod sgiwer yn y canol yn dod allan yn lân.
  5. Ar ôl ei goginio, gadewch iddo oeri a thorri'n thafelli....mwynhewch!

Rhannwch y cariad...

Ryseitiau DIWEDDARAF