Dyma quiche sy'n berffaith ar gyfer bwrdd y Nadolig. Os ydych chi'n meddwl ei fod yn edrych yn dda, arhoswch nes i chi ei flasu!
Cynhwysion
- 500g crwst shortcrust yn barod i'w rolio
- 6 wy
- 1 x 450g Iogwrt Naturiol Llaeth y Llan
- 200g eog mwg, wedi eu torri'n ddarnau bach .
- 100g caws gruyere wedi'i gratio
- Dill wedi'i dorri'n fân.
Cyfarwyddiadau
- Cynheswch y popty i 180C / 160C Fan / Marc Nwy 4.
- Rholiwch y crwst a gorchuddiwch tun quiche 9", pobi am 15 munud. Neilltuwch i oeri.
- Cymysgwch yr wyau a'r iogwrt ac ychwanegwch halen a phupur
- Gosodwch haen o eog wedi'i fygu ar sylfaen y crwst
- Ychwanegwch caws wedi'i gratio ar ei ben
- Tywalltwch y gymysgedd wyau.
- Coginiwch am 20-25 munud tan yn frown euraidd.
- Addurnwch â dil wedi'i dorri'n fân.




