Trawsnewidiwch eich bwyd dros ben yn bryd blasus ac iach gyda'r rysáit cyri llysiau hawdd hwn.
Cynhwysion
- Llysiau a thatws dros ben
- 1 Winwns (wedi'i dorri'n fân)
- 1 Tin o Domatos wedi'u torri.
- 300ml stoc llysiau
- 100g Iogwrt Naturiol Arddull Groegaidd Llaeth y Llan
- 1 llwy fwrdd o bowdr Cyri Canolig/Poeth
- 3 llwy fwrdd o olew llysiau
Cyfarwyddiadau
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr, ychwanegwch y nionod a'u coginio dros wres canolig am 8 munud neu nes eu bod wedi'i brownio'n ysgafn. Ysgeintiwch y powdwr cyri a choginiwch am 30 eiliad arall tra'n ei droi.
- Ychwanegwch y tomatos wedi'u torri a'u coginio am 2-3 munud arall. Ar ôl hyn ychwanegu'r stoc llysiau a mudferwch yn ysgafn.
- Ychwanegwch y llysiau/tatws a mudferwch y llysiau am tua 5 munud.
- Ar ôl ei goginio, ychwanegwch yr iogwrt a gweiniwch ar ben reis.




