Caws ar Dost Cymreig Blasus

Mae'r Caws ar Dost Cymreig, hufennog yma wedi'i wneud gydag iogwrt, sy'n ychwanegu rhywbeth gwahanol i'r saig glasurol, draddodiadol.

Cynhwysion

  • Bara (rydym yn argymell torth surdoes)
  • 200g Caws Cheddar Aeddfed y Ddraig
  • 2 Winwns y Gwanwyn (wedi'u torri'n fras)
  • 2 Wy (melynwy a'r gwynwy wedi gwahanu)
  • 1 llwy de o Fwstard
  • 125g Iogwrt Naturiol Llaeth y Llan Arddull Groegaidd
  • 1 llwy fwrdd Blawd Plaen

Cyfarwyddiadau

  1. Torrwch y dorth surdoes i mewn i dafelli trwchus a griliwch/tostiwch am 2-3 munud tan yn frown/euraidd.
  2. Mewn powlen, cymysgwch y caws, winwns y gwanwyn, iogwrt a mwstard gyda'r iolau wy. Ychwanegwch y blawd ac yna cymysgwch eto.
  3. Mewn powlen arall, chwisgwch y gwyn ŵy nes i gopaon meddal ddechrau ffurfio. Yna plygwch y gwynwy i mewn i'r gymysgedd caws yn ysgafn.
  4. Taenwch y gymysgedd dros y tost ac yna ei grilio nes ei fod yn byrlymu ac yn euraidd
  5. Gweinwch a mwynhewch!

Rhannwch y cariad...

Ryseitiau DIWEDDARAF