Quiche Nadoligaidd Brie a Llugaeron

Trît go iawn ar gyfer achlysuron yr ŵyl, mae'r quiche Brie a Llugaeron yma yn byrlymu â blas.

Cynhwysion

  • 500g crwst shortcrust yn barod i'w rolio
  • 6 wy
  • 1 x 450g Iogwrt Naturiol Llaeth y Llan
  • 100g brie wedi ei dafellu
  • 3 – 4 llwy fwrdd saws llugaeronen

Cyfarwyddiadau

  1. Cynheswch y popty i 180C / 160C Fan / Marc Nwy 4.
  2. Rholiwch y crwst a gorchuddiwch tun quiche 9", pobi am 15 munud. Neilltuwch i oeri.
  3. Cymysgwch yr wyau a'r iogwrt ac ychwanegwch halen a phupur
  4. Rhoi haen o saws llugaeronen dros y sylfaen crwst
  5. Gorchuddiwch â'r brie
  6. Tywalltwch y gymysgedd wyau.
  7. Coginiwch am 20-25 munud tan yn frown euraidd.

Rhannwch y cariad...

Ryseitiau DIWEDDARAF