Cyw Iâr Kiev

Ydych chi'n chwilio am bryd iach, blasus sy'n hawdd ei goginio?

Rhowch gynnig ar y rysáit blasus yma o Kiev Cyw Iar,a goginwyd ar raglen @FFITCymru gyda chynhwysion lleol gan gynnwys Iogwrt Naturiol Heb Fraster Llaeth y Llan, persli ffres, garlleg a Ham Caerfyrddin.

Cynhwysion

  1. 1 Brest cyw iâr
  2. 2 llwy fwrdd o Iogwrt Naturiol Heb Fraster Llaeth y Llan
  3. 2 llwy fwrdd o gaws meddal
  4. Llond llaw o bersli ffres
  5. 3 clôf o garlleg
  6. 4-5 sleisys o Ham Caerfyrddin (neu Parma ham)
  7. 10 tomato ar y winwydden
  8. Llond llaw o ysbigoglys

Cyfarwyddiadau

  1. Cynheswch y popty i 220 ° C / 425 ° F.
  2. Mewn powlen, cymysgwch y caws meddal, iogwrt, 2 glôf o arlleg a'r persli gyda'i gilydd.
  3. Gyda chyllell, torrwch boced 2–3 modfedd a gosodwch y gymysgedd iogwrt yn y poced.
  4. Lapiwch y cyw gyda'r ham.
  5. Yna, rhowch y cyw  yn y popty am 30 munud.
  6. Tra bod y cyw yn coginio, rhowch y tomatos yn y ffwrn a choginio'r sbigoglys a gweddill y garlleg.
  7. Pan mae popeth yn barod, gweinwch a mwynhewch!

Rhannwch y cariad...

Ryseitiau DIWEDDARAF