Tacos Cig Eidion gyda Dip Harissa

Cig eidion blasus, llysiau lliwgar, a dip Harissa hufennog wedi'i wneud gydag Iogwrt Naturiol Llaeth y Llan. Tacos gyda twist blasus ar ffefryn clasurol.

Cynhwysion

AR GYFER Y TACO SEASONING:

  • 1 llwy fwrdd o bowdwr chili
  • 1 llwy de cumin
  • 1/2 llwy de o halen
  • 1/2 llwy de oregano
  • 1/4 llwy de o baprika wedi mygu
  • 1/4  Llwy de o cayenne

AR GYFER CIG EIDION DAEAR:

  • 2 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1/2 nionyn gwyn wedi'i dorri
  • 2 clôf garlleg wedi'i dorri'n fan
  • 1 lb (450 g) fins cig eidion
  • Cwpan 1 (240 g) saws tomato
  • 1 jalapeno wedi'i dorri'n fân

I ASSEMBLE (gydag awgrymiadau gwasanaethu)

  • 8 tortillas
  • Letys Romaine wedi'i rwygo
  • Tomatos wedi torri
  • Afocado
  • Leim
  • Pupurau
  • Bresychen goch
  • Coriander i weini

AR GYFER Y HARRISA DIP:

  • 250g Iogwrt Naturiol Llaeth y Llan
  • 3-4 llwy fwrdd Harissa
  • Llond llaw o goriander wedi'i dorri'n fân
  • 1 clôf garlleg wedi'i wasgu
  • Croen o sudd 1 lemwn

Cyfarwyddiadau

  1. Paratowch y taco seasoning wrth gymysgu'r holl gynhwysion gyda'i gilydd a'u rhoi o'r neilltu.
  2. Mewn padell fawr dros wres canolig, ychwanegwch yr olew olewydd. Pan fo'r olew yn boeth, ychwanegwch y nionyn a'u ffrio nes yn feddal, tua 4-5 munud. Ychwanegwch y garlleg a pharhau i'w goginio am tua 2 funud.
  3. Ychwanegwch y cig eidion a choginiwch gan dorri'r cig yn ddarnau llai, nes iddo gael ei goginio drwodd, tua 5 munud.
  4. Ychwanegwch y seasonin taco a choginiwch am tua 30 eiliad ac yna ychwanegwch y saws tomato a'r jalapeno. Trowch y gwres i isel a mudferwch am tua 10 munud, gan droi'n achlysurol.
  5. Cynheswch y tortillas mewn padell sych dros wres canolig am tua 30 eiliad ar bob ochr.
  6. Llenwch bob tortilla gyda'r gymysgedd cig eidion a'r llenwad o'ch dewis gan gofio'r Dip Iogwrt Harissa
  7. Gweinwch y tacos cig eidion gyda choriander wedi'u torri a leim. Mwynhewch!

Rhannwch y cariad...

Ryseitiau DIWEDDARAF