Cacen Iogwrt Afal a Sinamon

Mae'r Gacen Iogwrt Apple a Cinnamon hon yn wledd hydref blasus sy'n sicr o ddod yn ffefryn teuluol.

Cynhwysion

Cynhwysion

  • 1 x 125g o Iogwrt Natiroil Llaeth Y Llan
  • 210g o flawd plaen
  • 2 llwy de o bowdr codi
  • 1/2 llwy de o soda pobi
  • 1/4 llwy de o halen
  • 150g o siwgr caster
  • 1 x Afal coch wedi ei blicio a'i dorri'n fras
  • 2 x wy mawr
  • 1 llwy fwrdd o fanila ecstract
  • 110ml o olew rapeseed

Cinnamon Topping

  • 50g o siwgr caster
  • 1 tsp de o sinamon
  • 1 llwy fwrdd o fenyn wedi toddi

Siwgr yn diferu

  • 50g o siwgr eisin
  • 1-2 llwy fwrdd o llaeth

Cyfarwyddiadau

  1. Cynheswch y popty i 180C (160C popty ffan. Irwch a leiniwch tun cacen 8” gyda phapur gwrth saim.
  2. Ychwanegwch y blawd, powdr codi, soda pobi, halen a’r siwgr i fewn i fowlen mawr. Ychwanegwch yr afal a’i gymysgu .
  3. Mewn powlen arwahan, ychwanegwch yr wyau, fanila, olew rapeseed a’r iogwrt a’i gymysgu.
  4. Ychwanegwch y gymysgedd gwlyb i’r gymysgedd sych gan ei droi yn ofalus gyda llwy bren nes ei fod wedi cyfuno’n llwyr. Ond, byddwch yn ofalus i beidio gor-gymysgu.Tywalltwch y gymysgedd i’r tun.
  5. Ar gyfer y top sinamon, cymysgwch y sinamon, siwgr a’r menyn gyda’i gilydd a’i dollti dros y gacen.
  6. Coginiwch y gacen am tua 30-35 munud. Yna, gwirwch os yw’r gacen wedi coginio wrth roi sgiwer yng nghanol y gacen a gweld os yw’n dod allan yn lân.
  7. Trosglwyddwch y gacen ar rac wifren i oeri
  8. Yn olaf, cymysgwch y siwgr eisin â un llwy fwrdd o laeth nes ei fod yn llyfn. Os yw’r ‘glaze’ yn rhy drwchus, ychwanegwch un llwy fwrdd arall o laeth. Tywalltwch dros y gacen wedi iddo oeri.

Rhannwch y cariad...

Ryseitiau DIWEDDARAF